This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.
Cwestiynau ac Atebion Cysylltu Cymru
Yn ogystal â’r Ganolfan Gyswllt ar gyfer Teams o fewn portffolio Cysylltu Cymru, mae gan ein partner technoleg FourNet y sgiliau a’r adnoddau ymgynghori hefyd i gefnogi’r defnydd llawn o Teams, o gwmpasu’r gofynion technegol a gofynion defnyddwyr, hyd at ddarparu Llwybro Uniongyrchol. Mae Llwybro Uniongyrchol yn galluogi eich gweithwyr i gyfathrebu’n ddi-dor â chysylltiadau y tu allan i’ch amgylchedd Teams: cwsmeriaid, partneriaid, cyflenwyr ac eraill. Gan ddefnyddio’r un rhyngwyneb Teams ar naill ai ffôn symudol neu gyfrifiadur, gall eich gweithwyr wneud neu dderbyn galwadau gyda phobl y tu allan i’ch amgylchedd Teams. Mae Llwybro Uniongyrchol Teams drwy FourNet yn golygu nad oes angen cynlluniau galwadau Microsoft costus. Mae costau fframwaith Cysylltu Cymru yn rhatach na chynlluniau galwadau Microsoft neu ddatrysiadau llwybro uniongyrchol cludwyr eraill ar y farchnad.
Mae costau a goblygiadau gweithredu Teams PBX yn dibynnu ar ba drwydded Microsoft rydych chi’n ei defnyddio ar hyn o bryd. Beth bynnag fo’ch trwydded bresennol, rhoddir ein datrysiadau ar waith mewn cyfnodau byr iawn gan roi swyddogaeth llais i chi o fewn 10-20 diwrnod gwaith. Darllenwch am ddatrysiadau Teams Cysylltu Cymru yma neu cysylltwch â ni a gallwn drafod costau datrysiad Teams integredig a’r gwaith o’i weithredu â chi.
Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar sut a ble y gellir defnyddio technoleg Cysylltu Cymru. Mae’r swyddogaethau ar gael i’w defnyddio gyda desgiau cymorth mewnol, desgiau cymorth TGCh, swyddogaethau cymorth Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Gweithwyr.
Dyluniwyd Cysylltu Cymru i gynnig swyddogaeth integreiddio llais syml i unrhyw PBX abl. Bydd hyn yn lleihau costau lle mae datrysiad teleffoni ar draws y fenter eisoes ar waith sydd â rhywfaint o amser a buddsoddiad ar ôl ynddo o hyd. Gellir cyflawni hyn gyda chysylltiadau IP (Protocol Rhyngrwyd) /SIP (Protocol Cychwyn Sesiwn) i greu llwybrau galwadau rhwng 2 lwyfan gan alluogi galwadau i’r ganolfan gyswllt gael eu llwybro i rannau eraill o’r sefydliad, ac i’r gwrthwyneb. Gall hefyd ganiatáu i fuddsoddiadau eraill, fel datrysiadau IVR (Ymateb Llais Rhyngweithiol) pwrpasol, gael eu cadw.
Caiff data ei storio a’i amgryptio yn ein canolfannau data yn y DU. Yn ogystal, gallwn gynnig opsiynau amrywiol ar gyfer amser cadw ac archifo’r wybodaeth naill ai i storfa FourNet ar wahân neu ar ddatrysiad y cwsmer ei hun.
Mae nifer o gydrannau y gellir eu defnyddio i sicrhau bod gweithwyr o bell yn cael eu cynnwys a’u cefnogi’n llawn. Mae nodweddion fel Rheoli Ansawdd yn helpu asiantiaid cartref i ymgysylltu’n llawn, i fod yn gynhyrchiol ac i ganolbwyntio. Mae gwerthusiadau ansawdd yn helpu asiantiaid canolfannau cyswllt o bell i deimlo’n gysylltiedig â’r broses ac i weld y gwerth y maent yn ei roi i’r busnes. Mae Rheoli’r Gweithlu yn grymuso gweithwyr o bell, drwy eu galluogi i gymryd rhan yn y broses amserlennu a rheoli amser gan ddefnyddio’r swyddogaethau gwneud cais am wyliau ac amserlenni.
Gellir defnyddio technolegau i gefnogi staff i deimlo’n hyderus ac i gefnogi perfformiad tra na fydd hyfforddi a chyfathrebu wyneb yn wyneb ar gael.
Mae Cysylltu Cymru yn galluogi cynghorau i rannu’r llwyfan i drosglwyddo galwadau’n ddiogel rhwng eu sefydliadau. Felly, er enghraifft, gallai Cyngor sydd â phoblogaeth ddwyieithog uchel gynnig gwasanaethau Cymraeg i gyd-gynghorau, sy’n ei chael hi’n anodd recriwtio a chadw staff dwyieithog.
Gall Cynghorau nawr recriwtio unrhyw le yn y wlad. Drwy ddefnyddio gweithio gartref i gael gafael ar staff dwyieithog, gallai Cyngor yn ne Cymru recriwtio aelod o staff yng ngogledd y wlad a’i ffonio, sgwrsio ag ef ar y we ac anfon e-byst ato fel pe bae’n eistedd yn y ganolfan gyswllt. Mae hyn nid yn unig yn cynnig cyfle i’r Cyngor wella ei wasanaethau Cymraeg, ond mae’n golygu y gall y staff dwyieithog barhau i fyw a gweithio yn eu cymuned leol a chefnogi eu heconomi leol. Mae’r dull hwn yn berthnasol ar draws nifer o wasanaethau, nid yn unig yr iaith Gymraeg.
Mae Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru wedi cydnabod y gall cydweithio helpu i ddarparu gwasanaethau sy’n gost-effeithiol, sy’n gynaliadwy ac sy’n helpu i fodloni anghenion ein dinasyddion yn well. Mae Cysylltu Cymru yn helpu i chwalu rhwystrau rhwng sefydliadau er mwyn galluogi mwy o gydweithio a chydweithredu. Mae’r gallu i lwybro ymholiadau’n ddi-dor ar draws ystod o sianeli yn creu cyfleoedd i drawsnewid gwasanaethau cyfredol a chreu gwasanaethau newydd. Mae gwasanaethau ar y cyd yn cael eu datblygu ledled Cymru, yn benodol yn y maes Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles. Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, sy’n darparu ystod enfawr o wasanaethau amddiffyn y cyhoedd ar gyfer Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg yn enghraifft wych o sut y gellir goresgyn gwahaniaethau hanesyddol mewn gweinyddu a phrosesau gwasanaethau er mwyn darparu gwasanaethau o ansawdd. Mae dinasyddion ym mhob un o’r tair ardal Cyngor yn profi gwasanaethau cyson a dibynadwy tra bod y Cynghorau wedi sicrhau gostyngiadau mewn costau gweithredu.
Mae Cysylltu Cymru yn un elfen o’r newidiadau trawsnewidiol sydd ar y gweill o ran sut y caiff gwasanaethau cyhoeddus Cymru eu darparu.
Mae Microsoft Teams yn wir wedi cymryd camau mawr dros y misoedd diwethaf, yn enwedig yn y sector cyhoeddus. Wrth i hyn ddod i’r amlwg yn sector cyhoeddus Cymru, roeddem yn gallu dangos pa mor hyblyg yw’r fframwaith ac ymgorffori ein Canolfan Gyswllt ar gyfer Teams yn Cysylltu Cymru yn gyflym, er mwyn galluogi cyrff cyhoeddus sy’n bwriadu defnyddio Teams i fanteisio ar holl nodweddion a swyddogaethau Fframwaith Cysylltu Cymru, a ddarperir ochr yn ochr â’u defnydd eu hunain o Microsoft Teams. Darllenwch am ddatrysiadau Teams Cysylltu Cymru yma neu cysylltwch â ni a gallwn drafod costau datrysiad Teams integredig a’r gwaith o’i weithredu â chi.
Mae’r llwyfannau wedi’u lleoli yng nghanolfannau data FourNet ym Manceinion a Llundain, ac mae sawl haen o wydnwch wedi’u cynnwys. Os, yn annhebygol, bydd digwyddiad mawr yn effeithio ar un ganolfan ddata, bydd gwasanaethau’n cael eu trosglwyddo i’r ail ganolfan ddata.
Mae’r rhaglenni eu hunain wedi’u hadeiladu o fewn amgylchedd rhithwir lle nad oes unrhyw bwyntiau methu. Mae’r rhwydwaith data wedi’i gysylltu â’r ddwy ganolfan ddata, sy’n cynnwys cysylltiadau deuol â’r rhyngrwyd, ein darparwyr SIP, y FourNet NOC a chysylltiadau 1GbE â PSBA (Project Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus).
Yn haen y rhwydwaith llais, gallwn gychwyn cynlluniau llwybro galwadau parhaol neu dros dro, felly er enghraifft, os bydd Cyngor yn profi problemau technegol ar y safle, gallant gychwyn cytundebau wedi’u trefnu o flaen llaw gyda Chynghorau partner i ddargyfeirio eu galwadau. Gall hyn hefyd helpu’r gallu i ymateb i ddigwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol, gan alluogi adnoddau ar draws nifer o sefydliadau i gyflwyno ymatebion mewn argyfwng. Gellir awtomeiddio’r prosesau a’r gweithdrefnau hyn, gan sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar wasanaethau hanfodol.
Mae amryw o opsiynau ar gyfer gweithio gartref, yn dibynnu ar y gwasanaethau y mae’r defnyddiwr yn dymuno eu defnyddio. Gallai defnyddiwr ysgogi datrysiadau VPN (Rhwydwaith Preifat Rhithwir) cyfredol mewn Cyngor sydd yn ei dro’n cysylltu â’r llwyfan cwmwl trwy PSBA, neu gylchedau WAN (Rhwydwaith Ardal Eang) FourNet. Neu, gall y defnyddiwr ddefnyddio gwasanaethau’r llwyfan cwmwl ar y rhyngrwyd mewn modd sy’n gwbl ddiogel.
Bydd angen i Fyrddau Iechyd sicrhau y gallant gynnig brechlyn ar adeg ac mewn lle sy’n gyfleus i gleifion. Y targed cychwynnol yw ein poblogaeth hŷn sy’n fwy tebygol o fod yn agored i niwed ac sy’n llawer mwy tebygol o gael gafael ar wasanaethau dros y ffôn. Mae hyn yn golygu bod canolfan gyswllt yn dod yn arf allweddol wrth sicrhau bod modd trefnu apwyntiad yn gyflym, yn hawdd ac yn gyfleus. Gall Cysylltu Cymru gynnig swyddogaethau canolfan gyswllt priodol, yn gyflym. Fel gwasanaeth Cwmwl, gall Cysylltu Cymru anfon galwadau cwsmeriaid at weithwyr gartref neu ar draws nifer o safleoedd. Mae’r llwyfan yn cynnig cyfle i greu gwasanaeth canolfan gyswllt rhanbarthol neu genedlaethol – gan gynyddu capasiti gweithredol a gwerth am arian.
Wrth gwrs, bydd amserlenni cyflwyno yn wahanol i bob sefydliad. Er bod y modelau trwydded/nodwedd a ddiffinnir yn y fframwaith wedi’u pennu, mae’r gwasanaethau proffesiynol sy’n gysylltiedig â chyflwyno a hyfforddi ac ati yn bwrpasol a byddant yn amrywio. Mae rhan o’r broses ymgysylltu yn cynnwys gweithio gyda’r cwsmeriaid, y rhanddeiliaid neu dîm y project i egluro a dogfennu’r holl ofynion fel y gellir darparu costau cywir.
Os yw staff am weithio gartref, fel arfer y cyfan mae angen ei wneud yw sicrhau bod gan y defnyddiwr gliniadur Windows 10 (sy’n sicrhau bod yr holl appiau UC a chanolfan gyswllt yn gweithio), cysylltiad band eang cryf, a digon o Wi-Fi yn yr ardal y bydd y defnyddiwr yn gweithio ynddi yn ei gartref. Fel arfer, byddai’r aelod o staff yn defnyddio rhyw fath o ffôn meddal i gyfathrebu, felly mae USB neu glustffonau diwifr o ansawdd da yn hanfodol.
Rhagwelwyd ers peth amser ddiwedd y ganolfan gyswllt gyda phobl yn defnyddio gwasanaethau ar-lein yn lle, fodd bynnag, mae nifer y rhyngweithiadau llais byd-eang yn parhau’n uchel. Mae canolfannau cyswllt yn y DU wedi gweld cynnydd enfawr yn nifer y galwadau ffôn yn ystod pandemig Covid-19 wrth i gwsmeriaid geisio trefnu gohirio taliadau, gofyn am ad-daliadau a chael Cyngor dosbarthu ar eitemau a brynwyd ar-lein (thisismoney.co.uk 02/07/20). Mae hyn yn dangos dau beth. Yn gyntaf mae’n well i chi gael y gwasanaeth o’r dechrau i’r diwedd yn iawn i’r cwsmer os ydych am leihau rhyngweithiadau dros y ffôn, ac yn ail mae’r sianel y mae cwsmeriaid yn ei defnyddio yn dibynnu ar eu sefyllfa a’u hamgylchiadau. Bydd canfyddiad y cwsmeriaid o ba mor brys yw eu sefyllfa neu’r risg sy’n gysylltiedig â hi yn dylanwadu ar y sianel y byddant yn ei dewis i ryngweithio â’ch sefydliad.
Ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru, mae hyn yn golygu sicrhau bod yr adnodd cywir ar gael ar gyfer lefel y risg sy’n gysylltiedig ag ymholiad y cwsmer. Mae adnoddau hunanwasanaeth ar-lein yn gweithio’n dda iawn ar gyfer ymholiadau risg isel, llai brys, nad ydynt yn gymhleth. Pan fydd ymholiadau’n gymhleth neu’n risg uchel, gellir defnyddio empathi, arloesedd a chreadigrwydd person i gyflawni canlyniadau gwell i’r dinesydd, lleihau risg i’r sefydliad a chael effaith gadarnhaol ar y gost o ddarparu gwasanaethau.
Nid yw’n ddewis rhwng sianeli ffôn a hunanwasanaeth, mae’n ymwneud â defnyddio’r adnodd cywir ar gyfer yr ymholiad cywir.
Mae llwyfan Cysylltu Cymru yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd aml-sianel i drawsnewid gwasanaethau a newid sianeli. Gall sgyrsiau gwe chwarae rôl bwysig wrth helpu dinasyddion i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt ac i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein. Wrth wneud hynny mae’n helpu i gadw dinasyddion ar y sianel honno ac yn helpu i atal galwadau diangen dros y ffôn. Yn yr un ffordd, gall sgyrsfotiau a chyfleusterau AI eraill sydd ar gael drwy Cysylltu Cymru helpu i gynnig cyfleoedd hunanwasanaethu ar-lein a chreu profiad gwych i ddinasyddion.
Mae’r dechnoleg yn helpu i oresgyn amrywiaeth o rwystrau ac yn eistedd o fewn ystod o fentrau digidol, diwylliant a rheoli newid eraill gyda’r nod o drawsnewid gwasanaethau er budd y cyhoedd. Gan weithio’n agos gyda’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, bydd ein Prif Swyddog Digidol newydd dros Lywodraeth Leol, ac eraill, yn sicrhau bod Cysylltu Cymru yn cyfrannu at y gwaith hwn.
Mae’r llwyfan yn galluogi sefydliadau’r sector cyhoeddus i gydweithio, datblygu cynigion gwasanaeth newydd, defnyddio technolegau newydd a chael gafael ar sgiliau ac adnoddau prin fel y gallwn gynllunio’n gyflym a chyflwyno gwasanaethau yn unol ag anghenion a dewisiadau ein dinasyddion mewn ffordd gost-effeithiol ac effeithlon.
Roedd cefnogi Safonau’r Gymraeg yn amod allweddol wrth ddatblygu’r llwyfannau. Fe’i hystyrir yn safonol. Bydd unrhyw gyfathrebiadau â’r cyhoedd, naill ai wedi’u hysgrifennu neu eu recordio, yn cael eu cynnig yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae hyn yn cynnwys IVR, negeseuon ciwio, sgyrsiau gwe a sgyrsfotiau.
Mae’r ateb uchod, gobeithio, yn ateb y cwestiwn hwn ar gyfer defnyddwyr nad ydynt yn defnyddio Teams/PBX ar y safle ond i’r sefydliadau hynny sy’n defnyddio Teams, mae FourNet yn mynd â Teams y tu hwnt i gydweithio mewnol rhwng gweithwyr drwy integreiddio Teams yn y ganolfan gyswllt. Mae ein cyfleusterau canolfan gyswllt aml-sianel yn galluogi eich cwsmeriaid i gael gafael ar asiantiaid eich canolfan gyswllt trwy’r sianel
o’u dewis; yna mae gweithle cyffredin Microsoft Teams yn galluogi eich asiant i ymgysylltu’n ddidrafferth ag arbenigwyr swyddfa gefn i gynnig y datrysiad gorau ar gyfer pob cyswllt â chwsmer.
Mae integreiddio ein canolfan gyswllt Teams yn rheoli’n ddeallus yr holl fathau o gysylltu – galwadau ffôn, negeseuon llais, e-byst, negeseuon SMS, sgyrsiau we, cyfryngau cymdeithasol – mewn datrysiadau sengl wedi’u hintegreiddio’n llawn. I’ch cwsmeriaid mae’n golygu amseroedd ymateb cyflymach, ac i’ch sefydliad mae’n golygu costau gweithredol is ac enillion effeithlonrwydd rhagorol.
Caiff y datrysiad ei fonitro o’r dechrau i’r diwedd er mwyn sicrhau ansawdd galwadau llais. Mae ein gwahanol lwyfannau yn monitro’r rhaglenni, y rhwydwaith, unrhyw offer fel llwybryddion neu setiau llaw IP a thynnir sylw at unrhyw elfen nad yw’n bodloni’r safon a osodwyd.
Lle mae gwasanaethau’n cael eu defnyddio dros y rhyngrwyd cyhoeddus, er enghraifft Microsoft Teams, ni ellir sicrhau’r gwasanaeth, ond mae pensaernïaeth Teams yn golygu y gellir gwarantu profiad gwych o’r alwad llais i raddau helaeth, ac os yw hyn yn is na lefel dderbyniol gallwn ysgogi gwahanol opsiynau llwybro galwadau.
Caiff galwadau eu recordio yng nghanolfannau data FourNet yn y DU. Mae’r galwadau wedi’u hamgryptio i sicrhau uniondeb y recordiadau – a allai fod yn sensitif. Caiff galwadau eu harchifo mewn cyfryngau eilaidd at ddibenion Adfer Trychineb, lle y gall Cynghorau gael gafael arnynt fel yr arfer. Gellir trafod cyfnodau cadw pob recordiad gyda’r Cynghorau.
Mae Cymru’n llwyfan a rennir, ac mae’n gywir dweud y byddai effaith ar bob Cyngor pe byddai’r holl wasanaethau o fewn y llwyfan yn methu’n llwyr. Dyna pam mae Cysylltu Cymru wedi’i adeiladu ar lwyfan Cwmwl Ystwyth penigamp FourNet, y mae llawer o gwsmeriaid Menter eisoes yn defnyddio ei wasanaethau. Mae Cwmwl Ystwyth wedi’i ddylunio gyda gwydnwch yn bresennol ym mhob agwedd ar y llwyfan, gan gynnwys canolfannau data, SIP, rhaglenni a chysylltedd rhwydwaith.
Mae FourNet yn monitro perfformiad seilwaith sylfaenol ein gwasanaeth cwmwl yn ofalus, ac rydym yn esblygu ac yn uwchraddio ein canolfannau data, cysylltiadau rhwydwaith, technolegau rhithwir a chynlluniau DR/BC (parhad busnes) yn gyson i gadw ar y blaen.
Nid oes gan Cysylltu Cymru unrhyw dechnolegau cyfieithu dwyieithog ar waith ar hyn o bryd, ond mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn ymchwilio iddo. Defnyddiwyd swyddogaeth cyfieithu fewnol Microsoft a oedd yn rhan o lwyfan gweminar Digwyddiadau Byw Teams ar gyfer y digwyddiad lansio.
Cynigir Cymraeg a Saesneg ar draws pob math allanol o gyfathrebu, megis negeseuon awtomatig, a sgyrsiau gwe ac ati, dim ond drwy ddyblygu’r holl negeseuon neu destunau sydd wedi’u storio yn y ddwy iaith a sicrhau, ar ôl dewis yr opsiwn a ffefrir, y bydd yr holl gyfathrebu arall yn yr iaith honno.
Cam nesaf Safonau’r Gymraeg yw rhoi’r dewis i staff dwyieithog ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Mae ein cyfleusterau Rheoli’r Gweithlu eisoes ar gael yn Gymraeg i staff dwyieithog.
Er yr oedd y Fframwaith a’r llwyfan ar gyfer Llywodraeth Leol Cymru’n wreiddiol, mae’n agored i unrhyw sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru.
Yn bendant. Er bod rhan o bortffolio Cysylltu Cymru o gynhyrchion a gwasanaethau yn cynnwys sgyrsfot a chyfleusterau AI (Deallusrwydd Artiffisial), nid yw’r llwyfan wedi’i gyfyngu a gellir integreiddio datrysiadau trydydd parti eraill os dymunir. Mae Cysylltu Cymru wedi’i adeiladu i fod yn hyblyg ac i integreiddio â datrysiadau sy’n bodoli eisoes e.e. datrysiadau Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid cyfredol, datrysiadau Rheoli’r Gweithlu ac ati.
Rydym yn gweithio gyda sefydliadau sy’n ystyried ymuno â’r llwyfan i adeiladu map ffordd sy’n galluogi newid o hen dechnoleg sy’n eich galluogi i fanteisio ar fuddsoddiadau sy’n bodoli eisoes tra’n manteisio ar y datblygiadau a’r swyddogaethau technegol diweddaraf.
Mae Cysylltu Cymru yn ymwneud â’r gallu i ddefnyddio swyddogaethau, ac nid cynnyrch penodol, ac oherwydd hynny, mae’r Cytundeb Fframwaith wedi’i lunio i alluogi ychwanegu technolegau newydd, gan sicrhau bod y llwyfan yn esblygu i ateb gofynion newidiol y farchnad a disgwyliadau dinasyddion.
Fel arfer byddai llwyfan Cysylltu Cymru’n cysylltu â systemau Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid cyfredol yn lle eu disodli. Mae llawer o lwyfannau y mae ein technolegau wedi integreiddio â nhw yn y gorffennol, ac mae’r mathau hyn o ddatrysiadau fel arfer yn syml iawn ac yn gyflym o ran sefydlu lefel dda, gyfoethog o integreiddio.
Lle nad oes integreiddio wedi bod o ran Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid penodol, neu os yw’r Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid yn bwrpasol, wedyn mae integreiddio’n bosibl o hyd, ond bydd yn cymryd mwy o amser i’w weithredu ac mewn rhai achosion gallai gynnwys tîm datblygu appiau dynodedig FourNet, neu hyd yn oed wasanaethau proffesiynol ein cyflenwyr.
Mae Cysylltu Cymru ar gael i bob Awdurdod Lleol heddiw. Ewch i’n gwefan, neu cysylltwch â Tony Curliss neu Andy Patrick i gael mwy o wybodaeth ac i drefnu sesiwn arddangos.
Yr achos busnes ariannol yw:
- Gwella effeithlonrwydd gweithredol adnoddau.
- Sicrhau’r arbedion maint mwyaf posibl drwy gydweithio a rhannu adnoddau.
- Y gallu i gynyddu a lleihau trwyddedau ar gyfer adnoddau a swyddogaethau’n gyflym yn ôl yr angen fel eich bod dim ond yn talu am yr adnoddau pan fyddwch yn eu defnyddio.
- Lleihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â threialu technolegau newydd.
Mae’r llwyfan yn cynnig technoleg sy’n helpu trigolion ac yn cefnogi’r gwaith o drawsnewid gwasanaethau, gan sicrhau arbedion yn y gyllideb, ac mae’r Fframwaith yn sicrhau bod cost trwyddedu yn gystadleuol. Mae hefyd yn galluogi cael gafael ar dechnoleg newydd i gwsmeriaid a’i phrofi mewn ffordd risg isel.