Manteision y Cwmwl

Mae hyn yn golygu bod mwy o gyfleoedd i alluogi staff ac asiantau canolfan gyswllt i weithio o bell neu o gartref, heb unrhyw effaith ar y sefydliad.  Cyhyd â bod modd cysylltu â’r rhyngrwyd, gall pawb weithio – boed ar ffôn symudol, ar liniadur neu ar gyfrifiadur.

O ganlyniad, mae’r gwaith o reoli’r gweithlu’n fwy effeithlon ar gyfer rheolwyr ac aelodau tîm, mae asiantau’n hapusach ac mae cydweithredu’n fwy tebygol.

Llwyfan cwmwl a reolir yn llawn yw Cysylltu Cymru.  Mae hyn yn golygu y gwneir gwaith cynnal cyffredinol a’r gwaith hanfodol o ddiweddaru systemau a diogelwch yn syth – gan eich galluogi i ganolbwyntio ar eich dinasyddion.

Mae technoleg hefyd yn eich galluogi i ragweld yn gywir y newidiadau yn eich sefydliad, gan eich galluogi i reoli adnoddau’n well.

Mae diogelwch bob amser yn rhywbeth a ystyrir yn barhaus, ac nid yw hynny’n debygol o newid yn fuan.  Gan fod seibr-fygythiadau’n fwy amlwg a gan fod diogelu data’n bryder sy’n cynyddu’n fyd-eang, mae seilwaith cadarn a diogel ar gyfer eich canolfan gyswllt a theleffoni yn hanfodol er tawelwch meddwl.

Gellir diweddaru patsys diogelwch Cysylltu Cymru o bell o unrhyw le.  Mae dileu’r angen i orfod datrys problem ar y safle’n golygu y gellir diogelu eich seilwaith rhag ymosodiadau posibl bron yn syth.

Y nodweddion a’r ymarferoldeb diweddaraf drwy’r cwmwl

Creu map ffordd i’r cwmwl sy’n manteisio ar fuddsoddiadau cyfredol tra’n integreiddio’r nodweddion a’r rhaglenni diweddaraf.