Trawsnewid Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, mae’r dasg wedi ei rhoi i sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru wella gwasanaethau i’w dinasyddion a’r profiad cyffredinol y maent yn ei ddarparu i ddinasyddion.

Drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae angen i wasanaethau cyhoeddus allu darparu set amrywiol o ffyrdd i wasanaethu eu dinasyddion sy’n addas ar gyfer y dyfodol. P’un ai mabwysiadu technoleg i alluogi dinasyddion i wasanaethu eu hunain neu symleiddio eich gweithrediadau technegol i greu ateb addasadwy, addas i’r dyfodol a wnewch, mae Cysylltu Cymru yma i helpu.

Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau sector cyhoeddus Cymru yn dal i ddefnyddio technoleg etifeddol a allai fod yn eu harafu. Mae technoleg yn newid yn barhaus ac mae ymgymryd â thaith Trawsnewid Digidol yn ffordd y gall sefydliadau adolygu eu nodau yn erbyn y dechnoleg y maent yn dibynnu arni i gyflawni’r rhain. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r broses hon yn tanlinellu nifer o bwyntiau methiant, prosesau cymhleth a bylchau mewn gwasanaeth sy’n effeithio ar wasanaethau dinasyddion.

Sut mae Cysylltu Cymru yn helpu

Sut mae Cysylltu Cymru yn helpu:

Mae platfform Cysylltu Cymru yn cynnig llwyfan canolfan gyswllt a fydd yn addas i’r dyfodol wedi ei seilio ar dechnoleg gyda’r gorau o’i math. Mae’r galluoedd arloesol hyn yn helpu sefydliadau sector cyhoeddus Cymru i wireddu eu haddewidion o ran profiad dinasyddion. Mae llwyfan canolfan gyswllt omnisianel Cysylltu Cymru yn rhoi un golwg ar gyfer yr holl ryngweithio rhwng dinasyddion ar draws eich sefydliad, gan eich galluogi i bersonoli profiad eich dinasyddion ar draws eich holl wasanaethau.

Mae Cysylltu Cymru yn integreiddio technoleg bwrpasol yn eich systemau presennol i sicrhau bod gennych broses symlach i ymgysylltu â dinasyddion waeth sut y maent yn cysylltu â chi. Mae’r gwasanaeth sydd wedi’i deilwra’n bwrpasol yn eich galluogi i fodloni eu disgwyliadau cynyddol drwy ddarparu un golwg o ryngweithiadau dinasyddion, waeth p’un fo’r sianel. Mae Cysylltu Cymru hefyd yn galluogi eich dinasyddion i wasanaethu eu hunain drwy dechnoleg o’r radd flaenaf.

Mae Cysylltu Cymru yn eich galluogi i ddadansoddi a gwneud y gorau o daith y dinesydd yn rhwydd, gan eich galluogi i wella’r gwasanaeth a gynigiwch ac mae technoleg o’r dechrau i’r diwedd Cysylltu Cymru yn gwneud pethau’n rhwydd i staff a dinasyddion, ni waeth sut y dewisant ymgysylltu.

Boed nhw’n asiantau, goruchwylwyr neu’n ddinasyddion, bydd yr offer gennych i ddelio’n gyson ag adborth – drwy lais y rhaglenni cwsmeriaid a gan asiantau monitro a hyfforddi. Gyda Cysylltu Cymru, byddwch yn darganfod yn fuan bod gweithwyr hapus yn golygu dinasyddion hapus.

Sut mae Cysylltu Cymru yn helpu:

Mae llwyfan Cyfathrebu a Chydweithredu Cysylltu Cymru yn cydgrynhoi popeth y mae eich gweithwyr ei angen i gysylltu, rhannu a chydweithio drwy’r un rhyngwyneb symlach.

Mae platfform y ganolfan gyswllt omnisianel yn darparu “un haen o wydr” i’ch asiantau, gan roi amlygrwydd i hanes cyfan dinesydd o ymgysylltu a rhyngweithio mewn un golwg, yn lleihau’r amser newid rhwng systemau a rhaglenni a chynyddu datrysiad ar y cyswllt cyntaf.

Gall technegau ‘gemeiddio’ hefyd wella boddhad gweithwyr a chystadleuaeth rhwng timau ac unigolion.

Mae Cysylltu Cymru yn defnyddio’r datrysiadau Rheoli Gwybodaeth o’r radd flaenaf i ddarparu’r atebion a’r mewnwelediad perthnasol i’ch asiantau neu’n uniongyrchol i’ch dinasyddion drwy opsiynau hunanwasanaeth.

Rheolir llwyfan Cysylltu Cymru gan ein partner technoleg FourNet, arbenigwyr arobryn ar ganolfannau cyfathrebu, cydweithredu a chyswllt, sy’n golygu bod eich seilwaith cyfathrebu yn cael ei reoli’n llawn, gan adael i chi ganolbwyntio ar redeg eich sefydliad.

How Connecting Wales helps:

Automation of mundane, repetitive tasks within the contact centre using RPA can both enable citizens to self-serve and can free agents to focus on higher-value activities.

Artificial Intelligence (AI) enables the Connecting Wales contact centre platform to learn, using intelligent routing to pair citizens with the right employee based on predicted interpersonal behaviour.

AI-powered chatbots or virtual assistants can deliver full self-service to citizens or enable assisted service, triaging queries and allocating them to the right agent where necessary.

Connecting Wales is built on a flexible, future-proof cloud platform.

Sut mae Cysylltu Cymru yn helpu:

Mae’r llwyfan hyblyg sy’n seiliedig ar y cwmwl yn galluogi sefydliadau i dreialu datblygiadau arloesol newydd, profi a dysgu, addasu ac yna cyflwyno gwasanaethau newydd yn gyflym, sy’n golygu y gallwch fodloni disgwyliadau esblygol eich dinasyddion. Mae’r datrysiad Unified Communications yn rhan o’r grym y tu cefn i arloesi, gan y gall gweithwyr gydweithio’n gyflym ac yn hawdd, gweithio’n ystwyth a chadw sefydliadau yn arloesi.

Ymddiriedaeth Ledled Cymru

Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd awdurdodau lleol a sefydliadau eraill y sector cyhoeddus yn cydweithio. Rwy’n falch iawn bod arian Llywodraeth Cymru yn helpu gwasanaethau llywodraeth leol i gydweithio, gan eu galluogi i ddatblygu a defnyddio technoleg arloesol i ddarparu gwell gwasanaeth i’w cwsmeriaid a gwneud swyddi eu staff yn haws.

Julie James
Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol

Bydd dyluniad arloesol a gwasanaeth wedi ei deilwra FourNet yn helpu i drawsnewid gwasanaethau digidol llywodraeth leol a'r sector cyhoeddus yng Nghymru, ac edrychwn ymlaen at weld llawer mwy o gynghorau a chyrff sector cyhoeddus yn ymuno â ni yn Cysylltu Cymru.

Rob Thomas
Rheolwr Gyfarwyddwr, Cyngor Bro Morgannwg