Alinio pob cyflogai er mwyn ymgysylltu’n ddi-dor â dinasyddion

Pryd bynnag a sut bynnag y bydd dinasyddion yn dewis cysylltu – boed hynny dros y ffôn, e-bost, gwe-sgwrs neu’r cyfryngau cymdeithasol; yn ystod y dydd neu’n hwyr yn y nos; byddan nhw i gyd yn mwynhau’r un profiad di-dor.

Mae canolfan gyswllt aml-sianel Cysylltu Cymru yn rhoi mynediad i ddinasyddion at asiantau canolfannau cyswllt drwy eu sianel o ddewis; yna mae cyfleusterau cydweithredu Cysylltu Cymru yn galluogi eich asiantau i ymgysylltu’n ddidrafferth ag arbenigwyr cefn swyddfa i gynnig y datrysiad gorau sydd ar gael i bob cyswllt gan ddinasyddion.

Datrysiadau Canolfannau Cyswllt

Sicrhau’r profiadau gorau i ddinasyddion gyda sgyrsfotiaid

Gwella profiadau dinasyddion trwy awtomeiddio hunanwasanaeth, lleihau’r pwysau ar asiantau eich canolfan gyswllt a rhoi’r amser iddyn nhw roi cymorth ychwanegol i’ch dinasyddion sydd ei angen fwyaf.

Gwasanaethau awtomataidd wedi’u hintegreiddio’n ddi-dor i ddinasyddion trwy ddefnyddio technoleg arloesol.

Recordio o’r Radd Flaenaf a Chyfleusterau o Ansawdd

Mae llwyfan Cysylltu Cymru yn cynnig amrywiaeth o ddatrysiadau recordio a rheoli ansawdd i sicrhau’r safonau gorau o ran eich gwasanaeth i ddinasyddion ac i wella potensial pob cyflogai.

Datrysiadau Rheoli’r Gweithlu

Gyda datrysiad Rheoli’r Gweithlu Cysylltu Cymru, gallwch reoli asiantau yn y ffordd fwyaf effeithiol a chyfeirio dinasyddion at y person cywir sydd gyda’r sgiliau cywir, yn y lle cywir, ar yr amser iawn.