Manteision cydweithredu effeithiol

Gall sefydliadau sector cyhoeddus Cymru elwa'n sylweddol o gydweithredu. Gall rhannu creadigrwydd, costau, adnoddau a rheoli wella cydberthnasau, arloesedd ac effeithlonrwydd.

Datrys Problemau

Mae nerth mewn niferoedd - ac mae dau ben, neu fwy, yn aml yn well nag un. Mae cydweithredu eang yn arwain at fwy o weithwyr ymroddedig sy'n awyddus i ymgymryd â heriau a phrojectau newydd. P'un a yw'n gwella gwaith tîm ac arloesedd, rhannu sgiliau neu adnoddau, gall diwylliant cydweithredol helpu i roi hwb i ganlyniadau a chynhyrchiant. Pan fydd cydweithredu'n gwella, gall hyblygrwydd a gallu sefydliad i ymdrin â newid sydyn wella hefyd. Gall gwell gwaith tîm wella ymatebion hefyd pan fydd dewisiadau dinasyddion yn newid, neu pan fydd technolegau aflonyddol neu newydd yn dod i'r amlwg.

Ffyrdd Gwell o Weithio

Un o fanteision mwyaf cydweithredu yw gwell cyfleoedd dysgu, gyda gwahanol setiau sgiliau, safbwyntiau, cryfderau a syniadau yn cael eu dwyn ynghyd. Mae technoleg Cwmwl Cysylltu Cymru yn galluogi unigolion a thimau i gydweithio ar yr un projectau, dogfennau, gwasanaethau a dinasyddion ar yr un pryd o wahanol leoliadau, gan ganiatáu gweithio o bell gartref hefyd. Mae cydweithredu'n caniatáu ffyrdd symlach ac effeithlon o weithio i ddatblygu a helpu i wella cynhyrchiant ac arloesedd.

Arbed Arian

Gall cydweithredu â phobl o'r un anian ac ar draws sefydliadau ddod â buddion cost cyflym - gan rannu pris technoleg ac offer newydd, a rhannu adnoddau a sgiliau. O fewn y sector cyhoeddus, lle mae adnoddau'n dynn a lle gall diwylliannau fod yn amharod i fentro, gall cydweithredu ychwanegu llawer iawn o werth at effeithlonrwydd a'r gwasanaethau a ddarperir i ddinasyddion.

Canolbwyntio ar Ddinasyddion

Mae’r llwyfan Cysylltu Cymru arobryn yn galluogi pobl i gydweithredu ym mhob rhan o’ch sefydliad. Gall hyn fod yn ymgysylltiad rhwng timau, cydweithredu â chontractwyr a chyflenwyr, neu asiantau canolfannau cyswllt â gweithwyr rheng flaen. Mae Cysylltu Cymru yn mynd i'r afael â'ch holl anghenion sefydliadol drwy roi'r dechnoleg gydweithredol i chi er mwyn darparu gwasanaeth rhagorol i'ch dinasyddion.

Sut mae Cysylltu Cymru yn helpu

Mae llwyfan Cyfathrebu a Chydweithredu Unedig Cysylltu Cymru wedi'i deilwra'n bwrpasol ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru. Gallwch rymuso unigolion a thimau i gydweithredu’n fyw, rhannu ffeiliau'n ddiogel, rheoli tasgau, golygu a rhoi sylwadau ar ddogfennau, cyfathrebu drwy sgwrsio, fideo, sain a chynadledda, ac olrhain perfformiad a chynnydd.