Cyfathrebu a Chydweithredu
Mae technoleg wedi datblygu mor gyflym fel bod y nifer fawr o offer cyfathrebu sydd ar gael yn ddigon i orlethu unrhyw gyflogai neu dîm TG. Gall platfform Cysylltu Cymru gydgrynhoi sianelau cyfathrebu unrhyw gorff Sector Cyhoeddus mewn un ateb syml, integredig.
Mae hynny’n golygu y gellir gwneud pob galwad lais, neges lais, fideo, presenoldeb a negeseua gwib o’r un sgrin. Mae hefyd yn caniatáu ar gyfer amserlennu a chynadledda, yn ogystal â rhannu sgriniau a dogfennau.
Cysylltu Cymru – dod â phopeth at ei gilydd.
Cysylltu Cymru + Teams
Diogel, dibynadwy, cost-effeithiol
Cyfathrebu a chydweithredu
Gall sefydliadau Sector Cyhoeddus Cymru nawr ddefnyddio Microsoft Teams i ysgogi mwy o gydweithio o fewn a rhwng adrannau a sefydliadau. Cyfunwch nodweddion cydweithredu gwych Teams â nodweddion teleffoni menter uwch, galluoedd canolfannau cyswllt, cymorth a dibynadwyedd Cysylltu Cymru.
Yr hyn y mae Cysylltu Cymru yn ei gynnig