Cysylltu Cymru a Microsoft Teams
Cyfathrebu a chydweithredu diogel, dibynadwy a chost-effeithiol
Gall sefydliadau Sector Cyhoeddus Cymru nawr ddefnyddio Microsoft Teams i ysgogi mwy o gydweithio o fewn a rhwng adrannau a sefydliadau. Cyfunwch nodweddion cydweithredu gwych Teams â nodweddion teleffoni menter uwch, galluoedd canolfannau cyswllt, cymorth a dibynadwyedd Cysylltu Cymru.
Alinio pob cyflogai i ddarparu'r profiad gorau i ddinasyddion
Yn mynd â Microsoft Teams y tu hwnt i gydweithio rhwng gweithwyr mewnol, drwy integreiddio Teams i’r ganolfan gyswllt. Mae ein cyfleuster aml-sianel Cysylltu Cymru yn rhoi mynediad i’ch dinasyddion at asiantau eich canolfannau cyswllt drwy sianel o’u dewis; yna mae gofod gwaith a rennir Microsoft Teams yn galluogi eich asiant i ymgysylltu’n ddidrafferth ag arbenigwyr y swyddfa gefn i ddarparu’r datrysiad gorau ar gyfer pob cyswllt gan ddinesydd.
Manteision Integreiddio Teams
Ysgogi cynhyrchiant drwy annog cydweithredu p'un a yw cyflogeion yn y swyddfa neu'n gweithio o bell.
Integreiddio Teams i'r ganolfan gyswllt
Cynyddu cynhyrchiant gweithredol a gwella profiad y cwsmer. Galluogi eich cefnogaeth swyddfa gefn i fod yn llyfn i'ch asiantau rheng flaen.