Rheoli asiantau’r ganolfan gyswllt yn effeithiol, o ble bynnag y bônt yn gweithio
Gyda datrysiad Rheoli’r Gweithlu Cysylltu Cymru, gallwch reoli asiantau yn y ffordd fwyaf effeithiol a chyfeirio dinasyddion at y person cywir sydd â’r sgiliau cywir, yn y lle cywir, ar yr amser cywir.
Symleiddio gweithrediadau a gwella gwasanaethau gyda Rheoli’r Gweithlu
Mae datrysiad Rheoli’r Gweithlu Cysylltu Cymru yn galluogi sefydliadau i wella effeithlonrwydd y gweithlu a all leihau costau drwy sicrhau bod gennych y swm cywir o adnoddau ar unrhyw adeg, gan ddileu’r risg o or-ddyrannu adnoddau nad oes eu hangen i wasanaethu eich dinasyddion.
Gyda Rheoli’r Gweithlu gallwch gynllunio eich gweithrediadau canolfan gyswllt yn effeithiol er mwyn sicrhau bod eich dinasyddion yn cyrraedd y person cywir cyn gynted â phosibl ar gyfer yr amseroedd datrys gorau posibl.
Nodweddion a gweithrediad
Manteision i'ch dinasyddion
Llwybro Dinasyddion Deallus
Gyda galluoedd Rheoli’r Gweithlu, gallwch sicrhau bod eich dinasyddion yn cyrraedd y person iawn, yn y lle iawn ar yr adeg iawn.
Profiad Gwell i Ddinasyddion
Gall symleiddio eich gweithrediadau a rheoli sgiliau ac amser eich asiantau effeithio'n gadarnhaol ar brofiad y dinasyddion.
Amseroedd Datrys Gwell
Gall cael dinasyddion at yr asiant cywir, gyda'r sgil iawn, ar yr adeg iawn wella amseroedd datrys eich dinasyddion yn ddramatig.