Canolfan Gyswllt
Ailddiffinio profiad dinasyddion ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru
Mae llwyfan gwasanaeth a rennir penigamp Cysylltu Cymru yn cynnig canolfan gyswllt sy’n integreiddio llais traddodiadol, sianeli digidol a hunanwasanaeth yn ddi-dor i symleiddio gwasanaethau i ddinasyddion.
Mae Cysylltu Cymru yn cydgrynhoi’r holl systemau mewnol gan rymuso asiantau i weld holl hanes a rhyngweithiadau dinasyddion mewn un lle. Yn cynnig mynediad unedig at raglenni a gwybodaeth ar draws gwasanaethau er mwyn datrys ymholiadau dinasyddion yn effeithlon ar draws gwahanol sianelau.
Alinio pob cyflogai er mwyn ymgysylltu’n ddi-dor â dinasyddion
Pryd bynnag a sut bynnag y bydd dinasyddion yn dewis cysylltu – boed hynny dros y ffôn, e-bost, gwe-sgwrs neu’r cyfryngau cymdeithasol; yn ystod y dydd neu’n hwyr yn y nos; byddan nhw i gyd yn mwynhau’r un profiad di-dor.
Mae canolfan gyswllt aml-sianel Cysylltu Cymru yn rhoi mynediad i ddinasyddion at asiantau canolfannau cyswllt drwy eu sianel o ddewis; yna mae cyfleusterau cydweithredu Cysylltu Cymru yn galluogi eich asiantau i ymgysylltu’n ddidrafferth ag arbenigwyr cefn swyddfa i gynnig y datrysiad gorau sydd ar gael i bob cyswllt gan ddinasyddion.
Datrysiadau Canolfannau Cyswllt
Sicrhau’r profiadau gorau i ddinasyddion gyda sgyrsfotiaid
Gwella profiadau dinasyddion trwy awtomeiddio hunanwasanaeth, lleihau’r pwysau ar asiantau eich canolfan gyswllt a rhoi’r amser iddyn nhw roi cymorth ychwanegol i’ch dinasyddion sydd ei angen fwyaf.
Gwasanaethau awtomataidd wedi’u hintegreiddio’n ddi-dor i ddinasyddion trwy ddefnyddio technoleg arloesol.
Recordio o’r Radd Flaenaf a Chyfleusterau o Ansawdd
Mae llwyfan Cysylltu Cymru yn cynnig amrywiaeth o ddatrysiadau recordio a rheoli ansawdd i sicrhau’r safonau gorau o ran eich gwasanaeth i ddinasyddion ac i wella potensial pob cyflogai.
Datrysiadau Rheoli’r Gweithlu
Gyda datrysiad Rheoli’r Gweithlu Cysylltu Cymru, gallwch reoli asiantau yn y ffordd fwyaf effeithiol a chyfeirio dinasyddion at y person cywir sydd gyda’r sgiliau cywir, yn y lle cywir, ar yr amser iawn.