This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.
Beth sy'n gyrru Trawsnewid Digidol yng Nghymru?
Yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, mae Trawsnewid Digidol yn bwysicach nag erioed. Dywed Llywodraeth Cymru fod y bwlch rhwng disgwyliadau dinasyddion Cymru a realiti gwasanaethau sector cyhoeddus Cymru yn ehangu’n gyflym.
Gyda nodau uchelgeisiol wedi’u pennu gan Lywodraeth Cymru, a deddfwriaeth sy’n ymrwymo cyrff sector cyhoeddus i drawsnewid eu gwasanaethau i gynnig galluoedd dwyieithog hyblyg, gwell profiadau i ddinasyddion a gwasanaethau a fydd yn ddiogel yn y dyfodol a chenedlaethau i ddod, mae Trawsnewid Digidol yn rheidrwydd.
Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, bydd Cysylltu Cymru yn eich helpu i gyflawni eich nodau Trawsnewid Digidol.
Trawsnewid Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, mae’r dasg wedi ei rhoi i sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru wella gwasanaethau i’w dinasyddion a’r profiad cyffredinol y maent yn ei ddarparu i ddinasyddion.
Drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae angen i wasanaethau cyhoeddus allu darparu set amrywiol o ffyrdd i wasanaethu eu dinasyddion sy’n addas ar gyfer y dyfodol. P’un ai mabwysiadu technoleg i alluogi dinasyddion i wasanaethu eu hunain neu symleiddio eich gweithrediadau technegol i greu ateb addasadwy, addas i’r dyfodol a wnewch, mae Cysylltu Cymru yma i helpu.
Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau sector cyhoeddus Cymru yn dal i ddefnyddio technoleg etifeddol a allai fod yn eu harafu. Mae technoleg yn newid yn barhaus ac mae ymgymryd â thaith Trawsnewid Digidol yn ffordd y gall sefydliadau adolygu eu nodau yn erbyn y dechnoleg y maent yn dibynnu arni i gyflawni’r rhain. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r broses hon yn tanlinellu nifer o bwyntiau methiant, prosesau cymhleth a bylchau mewn gwasanaeth sy’n effeithio ar wasanaethau dinasyddion.
Sut mae Cysylltu Cymru yn helpu
Sut mae Cysylltu Cymru yn helpu:
Mae platfform Cysylltu Cymru yn cynnig llwyfan canolfan gyswllt a fydd yn addas i’r dyfodol wedi ei seilio ar dechnoleg gyda’r gorau o’i math. Mae’r galluoedd arloesol hyn yn helpu sefydliadau sector cyhoeddus Cymru i wireddu eu haddewidion o ran profiad dinasyddion. Mae llwyfan canolfan gyswllt omnisianel Cysylltu Cymru yn rhoi un golwg ar gyfer yr holl ryngweithio rhwng dinasyddion ar draws eich sefydliad, gan eich galluogi i bersonoli profiad eich dinasyddion ar draws eich holl wasanaethau.
Mae Cysylltu Cymru yn integreiddio technoleg bwrpasol yn eich systemau presennol i sicrhau bod gennych broses symlach i ymgysylltu â dinasyddion waeth sut y maent yn cysylltu â chi. Mae’r gwasanaeth sydd wedi’i deilwra’n bwrpasol yn eich galluogi i fodloni eu disgwyliadau cynyddol drwy ddarparu un golwg o ryngweithiadau dinasyddion, waeth p’un fo’r sianel. Mae Cysylltu Cymru hefyd yn galluogi eich dinasyddion i wasanaethu eu hunain drwy dechnoleg o’r radd flaenaf.
Mae Cysylltu Cymru yn eich galluogi i ddadansoddi a gwneud y gorau o daith y dinesydd yn rhwydd, gan eich galluogi i wella’r gwasanaeth a gynigiwch ac mae technoleg o’r dechrau i’r diwedd Cysylltu Cymru yn gwneud pethau’n rhwydd i staff a dinasyddion, ni waeth sut y dewisant ymgysylltu.
Boed nhw’n asiantau, goruchwylwyr neu’n ddinasyddion, bydd yr offer gennych i ddelio’n gyson ag adborth – drwy lais y rhaglenni cwsmeriaid a gan asiantau monitro a hyfforddi. Gyda Cysylltu Cymru, byddwch yn darganfod yn fuan bod gweithwyr hapus yn golygu dinasyddion hapus.
Sut mae Cysylltu Cymru yn helpu:
Mae llwyfan Cyfathrebu a Chydweithredu Cysylltu Cymru yn cydgrynhoi popeth y mae eich gweithwyr ei angen i gysylltu, rhannu a chydweithio drwy’r un rhyngwyneb symlach.
Mae platfform y ganolfan gyswllt omnisianel yn darparu “un haen o wydr” i’ch asiantau, gan roi amlygrwydd i hanes cyfan dinesydd o ymgysylltu a rhyngweithio mewn un golwg, yn lleihau’r amser newid rhwng systemau a rhaglenni a chynyddu datrysiad ar y cyswllt cyntaf.
Gall technegau ‘gemeiddio’ hefyd wella boddhad gweithwyr a chystadleuaeth rhwng timau ac unigolion.
Mae Cysylltu Cymru yn defnyddio’r datrysiadau Rheoli Gwybodaeth o’r radd flaenaf i ddarparu’r atebion a’r mewnwelediad perthnasol i’ch asiantau neu’n uniongyrchol i’ch dinasyddion drwy opsiynau hunanwasanaeth.
Rheolir llwyfan Cysylltu Cymru gan ein partner technoleg FourNet, arbenigwyr arobryn ar ganolfannau cyfathrebu, cydweithredu a chyswllt, sy’n golygu bod eich seilwaith cyfathrebu yn cael ei reoli’n llawn, gan adael i chi ganolbwyntio ar redeg eich sefydliad.
How Connecting Wales helps:
Automation of mundane, repetitive tasks within the contact centre using RPA can both enable citizens to self-serve and can free agents to focus on higher-value activities.
Artificial Intelligence (AI) enables the Connecting Wales contact centre platform to learn, using intelligent routing to pair citizens with the right employee based on predicted interpersonal behaviour.
AI-powered chatbots or virtual assistants can deliver full self-service to citizens or enable assisted service, triaging queries and allocating them to the right agent where necessary.
Connecting Wales is built on a flexible, future-proof cloud platform.
Sut mae Cysylltu Cymru yn helpu:
Mae’r llwyfan hyblyg sy’n seiliedig ar y cwmwl yn galluogi sefydliadau i dreialu datblygiadau arloesol newydd, profi a dysgu, addasu ac yna cyflwyno gwasanaethau newydd yn gyflym, sy’n golygu y gallwch fodloni disgwyliadau esblygol eich dinasyddion. Mae’r datrysiad Unified Communications yn rhan o’r grym y tu cefn i arloesi, gan y gall gweithwyr gydweithio’n gyflym ac yn hawdd, gweithio’n ystwyth a chadw sefydliadau yn arloesi.
Ymddiriedaeth Ledled Cymru
Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd awdurdodau lleol a sefydliadau eraill y sector cyhoeddus yn cydweithio. Rwy’n falch iawn bod arian Llywodraeth Cymru yn helpu gwasanaethau llywodraeth leol i gydweithio, gan eu galluogi i ddatblygu a defnyddio technoleg arloesol i ddarparu gwell gwasanaeth i’w cwsmeriaid a gwneud swyddi eu staff yn haws.
Julie James
Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol
Bydd dyluniad arloesol a gwasanaeth wedi ei deilwra FourNet yn helpu i drawsnewid gwasanaethau digidol llywodraeth leol a'r sector cyhoeddus yng Nghymru, ac edrychwn ymlaen at weld llawer mwy o gynghorau a chyrff sector cyhoeddus yn ymuno â ni yn Cysylltu Cymru.
Rob Thomas
Rheolwr Gyfarwyddwr, Cyngor Bro Morgannwg