This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.
Profiad Dinasyddion: Un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru
Gyda phrofiadau cwsmeriaid yn goddiweddyd pris ac ansawdd fel gwahaniaethydd allweddol i sefydliadau, mae sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu herio i wella gwasanaethau i’w dinasyddion i fodloni eu disgwyliadau sy’n newid yn barhaus.
Nod platfform Cysylltu Cymru yw cyflawni nodau profiad dinasyddion trwy dechnoleg flaengar, gweithwyr cysylltiedig, a phrofiad di-dor.
Beth yw Profiad Cwsmeriaid?
Yn gwsmer, neu’n ddinesydd, y profiad yw’r canfyddiad y mae cwsmer yn ei gael o wasanaeth o’i holl ymwneud â sefydliad – o ansawdd i wasanaeth, o gyfathrebu digidol neu gyswllt wyneb yn wyneb i gyflenwi a chwynion. Dyma swm yr holl ryngweithio rhwng sefydliad a chwsmer.
Gyda datblygiadau mewn technoleg a diwylliant gyda llwyfannau fel y cyfryngau cymdeithasol ar gael i ddinasyddion, mae profiad da i gwsmeriaid bellach yn bwysicach nag erioed. Mae newyddion am brofiadau gwael i gwsmeriaid yn teithio’n gyflym a gall agweddau negyddol arwain at ddiffyg ymddiriedaeth mewn gwasanaethau.
Gwella Profiadau Dinasyddion yng Nghymru
Gyda Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a strategaeth y llywodraeth i gael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, bydd disgwyliadau dinasyddion Cymru yn parhau i esblygu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod bwlch sylweddol eisoes rhwng disgwyliadau dinasyddion a’r hyn y gall gwasanaethau cyhoeddus ei gyflawni ar hyn o bryd. Ystyr gwella profiad dinasyddion yw caniatáu i ddinasyddion hunan-wasanaethu lle y gallant, cynnig amrywiaeth o sianeli cyfathrebu a rhoi’r cymorth iawn i ddinasyddion ar yr adeg iawn.
Mae’r pwysau eisoes ar wella gwasanaethau cyhoeddus ac mae disgwyliadau’n parhau i godi yng Nghymru – mae Cysylltu Cymru yma i helpu. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, adeiladwyd platfform Cysylltu Cymru i ddarparu ar gyfer disgwyliadau amrywiol dinasyddion, ac ar yr un pryd mae’n ddatrysiad sy’n diogelu’r dyfodol i’ch galluogi i ddarparu gwasanaethau dinasyddion sy’n gyson eithriadol.
Technoleg newydd i yrru Profiad Cwsmeriaid eithriadol
Mae technoleg ddigidol wedi helpu i godi disgwyliadau dinasyddion yn rhannol oherwydd cyflymder a chyfleustra trafodion a rhyngweithiadau ar-lein, yn ogystal â llu o nodweddion hunan-wasanaethu nad yw dinasyddion yn cael unrhyw drafferth wrth eu defnyddio.
Gyda’r dechnoleg newydd, arloesol sydd ar gael yn gynyddol, mae gwasanaethau ar gael bron yn syth. Mae safon disgwyliadau dinasyddion bellach yn uwch nag erioed. Nid dim ond o safbwynt gweithredu sefydliadol y mae datrysiadau cyflym drwy amrywiaeth o sianeli cyfathrebu yn hanfodol – mae hyn bellach yn ddisgwyliad gan ddinasyddion.
Beth mae dinasyddion eisiau?
Mae dinasyddion yn gwybod beth y maent am ei gael ac mae ganddynt ddisgwyliadau uwch nag erioed o'r blaen.
Gall arallgyfeirio pwyntiau cyswllt eich dinesydd drwy dechnoleg alluogol fel adnabod llais, deallusrwydd artiffisial a sgyrsfotiau fod yn ffordd effeithiol o ddatrys materion yn gyflym heb roi gormod o straen ar eich canolfan gyswllt. Mae technoleg yn helpu drwy leihau amseroedd aros hir, galluogi dinasyddion i ddatrys materion eu hunain ac addysgu ar sut i ddatrys eu problemau eu hunain pan allan nhw.
Gall defnyddio deallusrwydd artiffisial, sgyrsfotiau a thechnolegau datblygol eraill fod yn ffordd syml a chost-effeithlon o gynnig hwylustod i ddinasyddion a gwella profiad cyffredinol dinasyddion. Ochr yn ochr â hyn, mae’n caniatáu i’ch asiantau neilltuo mwy o’u hamser i ddinasyddion sydd angen cymorth ychwanegol.
Os nad yw hynny’n bosibl yna maent yn disgwyl oriau agor hirach a mwy cyfleus.
Mae dinasyddion yn disgwyl bod cyswllt a chefnogaeth ar gael iddynt pryd, ble a sut y maent am ei gael. Maent yn disgwyl ymateb buan i’w hymholiadau neu broblemau.
Yn gyffredinol, maent yn hapus i’w data gael ei ddefnyddio i sicrhau yr ymdrinnir â hwy fel unigolion, nid yn unig fel ‘dinesydd arall’, ac i’w hanes a’u dewisiadau blaenorol gael eu cofio, fel y gellir cynnig cymorth iddynt yn seiliedig ar eu harferion a’u cefndir. Mae hynny’n golygu bod angen i asiantau gael mynediad at ryngweithiadau a manylion o’r gorffennol.
Mae bron i ddwy ran o dair o bobl yn newid eu sianel gyswllt yn dibynnu ar ble maen nhw a beth maen nhw’n ei wneud ar y pryd. Ond maen nhw’n disgwyl yr un gwasanaeth cyson, waeth sut y maent yn cysylltu.
Os na fydd dinasyddion yn cael yr hyn y maent am ei gael, byddant yn cwyno, ac yn gyflym. Mae ganddynt hefyd ddisgwyliadau uchel am y gwasanaeth hwnnw hefyd.
Sut mae Cysylltu Cymru yn Helpu
Llwyfan wedi'i deilwra'n bwrpasol ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru ydyw, sy'n sicrhau bod gwasanaethau dinasyddion yn gyfleus, yn gyflym, yn bersonol ac yn ddi-drafferth.