Pontio Cwmwl
Cysylltu Cymru: y llwyfan cwmwl gwasanaethau a rennir pwrpasol ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Mae pontio i dechnoleg cwmwl yn amcan allweddol yn strategaeth TGCh barhaus Llywodraeth Cymru, ac mae rheswm da dros hynny.
Mae technoleg cwmwl yn gwella effeithlonrwydd, hyblygrwydd a diogelwch. Mae’n rhoi mwy o reolaeth i sefydliadau dros adnoddau, mae’n haws ehangu neu gwtogi, ac mae’n paratoi sefydliadau at y dyfodol.
Manteision y Cwmwl
Mae hyn yn golygu bod mwy o gyfleoedd i alluogi staff ac asiantau canolfan gyswllt i weithio o bell neu o gartref, heb unrhyw effaith ar y sefydliad. Cyhyd â bod modd cysylltu â’r rhyngrwyd, gall pawb weithio – boed ar ffôn symudol, ar liniadur neu ar gyfrifiadur.
O ganlyniad, mae’r gwaith o reoli’r gweithlu’n fwy effeithlon ar gyfer rheolwyr ac aelodau tîm, mae asiantau’n hapusach ac mae cydweithredu’n fwy tebygol.
Llwyfan cwmwl a reolir yn llawn yw Cysylltu Cymru. Mae hyn yn golygu y gwneir gwaith cynnal cyffredinol a’r gwaith hanfodol o ddiweddaru systemau a diogelwch yn syth – gan eich galluogi i ganolbwyntio ar eich dinasyddion.
Mae technoleg hefyd yn eich galluogi i ragweld yn gywir y newidiadau yn eich sefydliad, gan eich galluogi i reoli adnoddau’n well.
Mae diogelwch bob amser yn rhywbeth a ystyrir yn barhaus, ac nid yw hynny’n debygol o newid yn fuan. Gan fod seibr-fygythiadau’n fwy amlwg a gan fod diogelu data’n bryder sy’n cynyddu’n fyd-eang, mae seilwaith cadarn a diogel ar gyfer eich canolfan gyswllt a theleffoni yn hanfodol er tawelwch meddwl.
Gellir diweddaru patsys diogelwch Cysylltu Cymru o bell o unrhyw le. Mae dileu’r angen i orfod datrys problem ar y safle’n golygu y gellir diogelu eich seilwaith rhag ymosodiadau posibl bron yn syth.
Y nodweddion a’r ymarferoldeb diweddaraf drwy’r cwmwl
Creu map ffordd i’r cwmwl sy’n manteisio ar fuddsoddiadau cyfredol tra’n integreiddio’r nodweddion a’r rhaglenni diweddaraf.