This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.
Cydweithredu a Ffyrdd Gwell o Weithio
Uchelgais hirdymor Llywodraeth Cymru yw cael 30% o weithlu Cymru yn gweithio o bell. Er mwyn helpu i gyflawni’r uchelgais hwn, bydd technoleg gydweithredol sy’n galluogi ffyrdd gwell o weithio yn hanfodol.
Gall technoleg gydweithredol, o’i defnyddio’n effeithiol, fod yn arf pwerus ar gyfer tyfu eich sefydliad, gwella effeithlonrwydd a dod â thimau at ei gilydd lle bynnag y bônt yn gweithio.
Gall uno eich cyfathrebu a galluogi cydweithredu drwy dechnoleg fod yn ateb syml sy’n gwella cyfathrebu ar draws y sefydliad ac yn hwyluso ffyrdd hyblyg a gwell o weithio.
Manteision cydweithredu effeithiol
Gall sefydliadau sector cyhoeddus Cymru elwa'n sylweddol o gydweithredu. Gall rhannu creadigrwydd, costau, adnoddau a rheoli wella cydberthnasau, arloesedd ac effeithlonrwydd.
Datrys Problemau
Mae nerth mewn niferoedd - ac mae dau ben, neu fwy, yn aml yn well nag un. Mae cydweithredu eang yn arwain at fwy o weithwyr ymroddedig sy'n awyddus i ymgymryd â heriau a phrojectau newydd. P'un a yw'n gwella gwaith tîm ac arloesedd, rhannu sgiliau neu adnoddau, gall diwylliant cydweithredol helpu i roi hwb i ganlyniadau a chynhyrchiant. Pan fydd cydweithredu'n gwella, gall hyblygrwydd a gallu sefydliad i ymdrin â newid sydyn wella hefyd. Gall gwell gwaith tîm wella ymatebion hefyd pan fydd dewisiadau dinasyddion yn newid, neu pan fydd technolegau aflonyddol neu newydd yn dod i'r amlwg.
Ffyrdd Gwell o Weithio
Un o fanteision mwyaf cydweithredu yw gwell cyfleoedd dysgu, gyda gwahanol setiau sgiliau, safbwyntiau, cryfderau a syniadau yn cael eu dwyn ynghyd. Mae technoleg Cwmwl Cysylltu Cymru yn galluogi unigolion a thimau i gydweithio ar yr un projectau, dogfennau, gwasanaethau a dinasyddion ar yr un pryd o wahanol leoliadau, gan ganiatáu gweithio o bell gartref hefyd. Mae cydweithredu'n caniatáu ffyrdd symlach ac effeithlon o weithio i ddatblygu a helpu i wella cynhyrchiant ac arloesedd.
Arbed Arian
Gall cydweithredu â phobl o'r un anian ac ar draws sefydliadau ddod â buddion cost cyflym - gan rannu pris technoleg ac offer newydd, a rhannu adnoddau a sgiliau. O fewn y sector cyhoeddus, lle mae adnoddau'n dynn a lle gall diwylliannau fod yn amharod i fentro, gall cydweithredu ychwanegu llawer iawn o werth at effeithlonrwydd a'r gwasanaethau a ddarperir i ddinasyddion.
Canolbwyntio ar Ddinasyddion
Mae’r llwyfan Cysylltu Cymru arobryn yn galluogi pobl i gydweithredu ym mhob rhan o’ch sefydliad. Gall hyn fod yn ymgysylltiad rhwng timau, cydweithredu â chontractwyr a chyflenwyr, neu asiantau canolfannau cyswllt â gweithwyr rheng flaen. Mae Cysylltu Cymru yn mynd i'r afael â'ch holl anghenion sefydliadol drwy roi'r dechnoleg gydweithredol i chi er mwyn darparu gwasanaeth rhagorol i'ch dinasyddion.
Sut mae Cysylltu Cymru yn helpu
Mae llwyfan Cyfathrebu a Chydweithredu Unedig Cysylltu Cymru wedi'i deilwra'n bwrpasol ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru. Gallwch rymuso unigolion a thimau i gydweithredu’n fyw, rhannu ffeiliau'n ddiogel, rheoli tasgau, golygu a rhoi sylwadau ar ddogfennau, cyfathrebu drwy sgwrsio, fideo, sain a chynadledda, ac olrhain perfformiad a chynnydd.