Beth yw
Cysylltu Cymru?

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae Cysylltu Cymru yn fframwaith sy’n galluogi unrhyw gorff sector cyhoeddus yng Nghymru i fanteisio ar y cyfleusterau cyfathrebu, cydweithredu a chanolfan gyswllt diweddaraf trwy’r cwmwl.

Mae Cysylltu Cymru yn llwyfan canolfan gyswllt arloesol a rennir ar gyfer cynghorau a sefydliadau sector cyhoeddus eraill ledled Cymru. Mae’n cynnig ffordd o ddefnyddio llwyfan digidol modern sy’n fforddiadwy ac yn effeithlon, ac yn rhoi mwy o reolaeth i ddinasyddion Cymru dros y gwasanaethau y maent yn eu derbyn yn ogystal â’r gallu i gael y wybodaeth mae ei hangen arnynt. Mae’r llwyfan yn galluogi gweithio rhwng cynghorau a chyrff sector cyhoeddus eraill gan gynnwys Ymddiriedolaethau’r GIG a gwasanaethau meddyg teulu gan ddarparu gwasanaeth cyfannol i ddinasyddion

"Mae Cysylltu Cymru yn helpu i drawsnewid gwasanaethau digidol llywodraeth leol a'r sector cyhoeddus yng Nghymru, ac edrychwn ymlaen at weld llawer mwy o gynghorau a chyrff sector cyhoeddus yn ymuno â ni yn Cysylltu Cymru."

Mae hefyd yn galluogi’r sector cyhoeddus i rannu adnoddau, sy’n ddefnyddiol iawn pan yr effeithir ar staff o bosibl gan ddigwyddiadau fel COVID-19 a phan fydd y galw am wasanaethau gynyddu’n gyflym.”

Rob Thomas

Rheolwr Gyfarwyddwr, Cyngor Bro Morgannwg

Gwasanaethau canolfan gyswllt, cydweithredu a chyfathrebu

Mae Cysylltu Cymru yn cynnig opsiwn risg isel i gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru brofi technoleg newydd drwy rannu costau a gweithio ar y cyd a chyda mwy o hyblygrwydd i rannu baich datblygiadau technolegol a chyfathrebu newydd. Mae cyfleusterau cwmwl yn galluogi mwy o weithio o bell ac yn rhoi mwy o gyfleoedd recriwtio mewn cymunedau anghysbell, heb unrhyw effaith andwyol ar wasanaethau Cysylltu Cymru.

Gall y rheiny sy’n tanysgrifio i Cysylltu Cymru fanteisio ar rai neu bob un o’r gwasanaethau sydd ar gael trwy’r llwyfan.

Alinio pobl, prosesau a thechnoleg

Mae Cysylltu Cymru yn galluogi pobl, prosesau a thechnoleg i gefnogi gweledigaeth gyffredin. Rydym yn gweithio gyda darpar aelodau i ddeall y ffyrdd cyfredol o weithio a nodau sefydliadol.  Byddwn yn rhannu arfer gorau ein cwsmeriaid cyfredol ac yn gweithio gyda chi i adeiladu eich achos busnes a dangos y gwerth am arian a’r enillion ar fuddsoddiad a geir wrth ymuno â Cysylltu Cymru.

Bydd penseiri datrysiadau’n creu map ffordd technoleg ar gyfer integreiddio eich systemau cyfredol a’r cynllun mabwysiadu ar gyfer nodweddion ac ymarferoldeb yn y dyfodol.  Mae gwasanaethau proffesiynol a thîm rheoli projectau ein partner thechnoleg yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r project pob cam o’r ffordd. Ar ôl gweithredu’r project yn llawn, rydym yn cwblhau proses pontio gwasanaeth cynhwysfawr i ddesg gymorth FourNet a all wedyn reoli’r gwasanaeth yn llawn wrth symud ymlaen neu gefnogi eich tîm mewnol.

Mae fframwaith Cysylltu Cymru wedi’i greu i alluogi unrhyw gorff sector cyhoeddus yng Nghymru i fanteisio ar y cyfleusterau cyfathrebu, cydweithredu a chanolfan gyswllt diweddaraf trwy’r cwmwl; gan rannu costau, adnoddau a thechnoleg.