December 13, 2021

“Cymeradwyaeth uchel” i Cysylltu Cymru

Mae Cysylltu Cymru wedi derbyn cymeradwyaeth uchel gan feirniaid yng
Ngwobrau Busnes 2021.

Cafodd ein fframwaith ‘Cwmwl Cymunedol’ arloesol ar gyfer sector cyhoeddus
Cymru, a aeth yn fyw ar ddechrau 2020 wrth i’r pandemig daro, ei roi ar y rhestr
fer yn y categori TGCh Marchnad Ganolig.

Mae Cysylltu Cymru yn llwyfan technoleg a chanolfan gyswllt a rennir, sydd ar
gael i bob sefydliad sector cyhoeddus Cymru, ac mae’n helpu i leihau cost
technoleg cyfathrebu a chanolfannau cyswllt i gynghorau unigol ac eraill yn y
sector cyhoeddus.

Mae’n cynnig ffordd o ddefnyddio llwyfan digidol modern sy’n fforddiadwy ac yn
effeithlon, ac yn rhoi mwy o reolaeth i ddinasyddion Cymru dros y gwasanaethau
y maent yn eu derbyn yn ogystal â’r gallu i gael y wybodaeth mae ei hangen
arnynt. Mae’r llwyfan yn galluogi cynghorau a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus,
gan gynnwys Ymddiriedolaethau’r GIG a gwasanaethau meddygon teulu, i
weithio ar y cyd ac roedd yn allweddol wrth helpu i weithio o bell a chadw cleifion
yn ddiogel yn ystod y pandemig.

Cyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro oedd y cyntaf i
ymuno â llwyfan Cysylltu Cymru. Ers hynny mae Cyngor Wrecsam wedi ymuno
â’r gwasanaeth a rennir, ynghyd â Chyngor Rhondda Cynon Taf yn fwy diweddar.

Mae’r gwasanaeth yn cael ei arwain gan Gyngor Bro Morgannwg, gyda
chefnogaeth Llywodraeth Cymru, ac mae’n cael ei bweru gan ddarparwyr
technoleg arobryn, FourNet.

Meddai Rob Thomas, rheolwr gyfarwyddwr Cyngor Bro Morgannwg:
“Mae Cysylltu Cymru wedi profi ei werth dros y 18 mis diwethaf. Mae ei alluoedd
gweithio o bell a’i dechnoleg cydweithio wedi cadw pethau’n rhedeg yn llyfn ac
yn ddiogel i weithwyr a dinasyddion fel ei gilydd, felly mae’n wych cael y
gydnabyddiaeth hon gan y Gwobrau Busnes.”

Dywedodd Richard Pennington, Prif Swyddog Gweithredol FourNet:
“Rydym wrth ein bodd bod Cysylltu Cymru a FourNet wedi derbyn canmoliaeth
uchel y beirniaid yn y Gwobrau Busnes. Mae’n dyst i waith caled yr holl dîm sydd
wedi datblygu a pharhau i dyfu Cysylltu Cymru.”

Y llynedd, cafodd Cysylltu Cymru “gymeradwyaeth uchel” yng Ngwobrau
Cenedlaethol 2020 hefyd am yr Ateb Marchnata Fertigol Gorau i Fusnesau.

DIWEDD