November 12, 2020

Bydd Cysylltu Cymru yn helpu cynghorau i dorri costau a chyrraedd y targed gweithio gartref o 30%

Bydd Cysylltu Cymru yn helpu cynghorau i dorri costau a chyrraedd y targed gweithio gartref o 30%  

Dylai paratoi asiantau canolfannau cyswllt ar gyfer gweithio o bell fod yn ‘flaenoriaeth allweddol’     

Ymuno â Cysylltu Cymru, y llwyfan sy’n ganolfan gyfathrebu a chyswllt a rennir ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru, fyddai’r ffordd gyflymaf a mwyaf cost-effeithlon i awdurdodau lleol weld 30% o’u gweithwyr yn gweithio gartref yn y dyfodol.

Dyna neges Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Cyngor Bro Morgannwg, yr awdurdod arweiniol ar Cysylltu Cymru, a lansir yn swyddogol heddiw gan Julie James, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Dai a Llywodraeth Leol, mewn digwyddiad rhithwir.

Ym mis Mawrth, gohiriwyd lansio Cysylltu Cymru oherwydd COVID-19.  Ers hynny, fodd bynnag, mae mwy o gyrff yn y sector cyhoeddus wedi ymuno â’r llwyfan technoleg a rennir sydd wedi galluogi lansio gwasanaethau newydd sy’n gysylltiedig â COVID yn gyflym, fel CAV24/7 a’r gwasanaeth bws ymatebol i alw Trafnidiaeth Cymru, sef fflecsi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod am roi mwy o hyblygrwydd i weithwyr weithio o bell yn y dyfodol ac mae’n awgrymu y gallai hyn sbarduno adfywio a gweithgarwch economaidd mewn cymunedau ledled Cymru ar ôl i fygythiad COVID-19 gilio.

Mae llawer o gynghorau a chyrff yn y sector cyhoeddus – yn ogystal â busnesau – yn ystyried y ffordd orau o gyrraedd targed y Gweinidog.

Dwedodd Rob Thomas:  “Yng Nghyngor Bro Morgannwg, rydym yn chwilio’n barhaus am ddulliau arloesol o wella’r ffordd rydym yn gweithredu ac yn darparu gwasanaethau hanfodol. Dyna pam rydym yn falch o fod yn defnyddio llwyfan a gynlluniwyd i annog gweithio gartref, ac a fydd yn ein helpu i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithio o bell ymhlith staff cynghorau a chanolfannau galw yn y dyfodol.

“Ymuno â llwyfan Cysylltu Cymru a rhoi asiantau canolfannau cyswllt ar waith o bell yw’r ffordd symlaf, fwyaf effeithlon a chost-effeithiol i awdurdodau lleol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus roi’r bêl ar waith.  Dylai fod yn flaenoriaeth allweddol i’r rhai sy’n ceisio cyflawni targed Llywodraeth Cymru o alluogi 30% o weithwyr i weithio gartref.”

Mae awdurdodau lleol yn cyflogi tua 140,000 o bobl yng Nghymru.  Credir ar hyn o bryd fod dros 2,400 o weithwyr canolfannau cyswllt sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae astudiaethau’n awgrymu bod gweithio o bell yn dod â manteision mawr i gyflogwyr a gweithwyr fel ei gilydd – lleihau costau swyddfa ac effaith amgylcheddol busnesau, tra’n gwella cynhyrchiant a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, a lleihau salwch ac absenoldeb o’r gwaith.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol: “Mae’r pandemig wedi newid sut mae nifer ohonom yn gweithio. Bydd Cysylltu Cymru yn caniatáu i fwy o weithwyr ar draws awdurdodau lleol weithio gartref tra’n cynnal gwasanaethau allweddol i’w cymunedau.

“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd awdurdodau lleol a’r sector cyhoeddus yn cydweithio. Rwy’n falch iawn ei fod wedi mynd o nerth i nerth, gan alluogi mwy o gydweithio ar draws llywodraeth leol, mwy o arloesi a gwell gwasanaethau i’w cwsmeriaid yn Gymraeg ac yn Saesneg.”

Mae’r offer a’r dechnoleg sydd ar gael drwy Cysylltu Cymru, sy’n defnyddio rhwydwaith PSBA (Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus), yn hawdd eu caffael drwy gytundeb fframwaith.

“Cynlluniwyd y llwyfan gyda gweithio gartref a gweithio o bell mewn golwg.  Mae Cysylltu Cymru yn galluogi asiantau canolfannau cyswllt, gweithwyr y sector cyhoeddus a rheolwyr i gael mynediad i’r un offer a thechnoleg o’r cartref yn union ag y byddent yn eu gwneud o’r swyddfa,” ychwanegodd Rob Thomas.

Mae cyflogwyr hefyd yn archwilio llawer o oblygiadau eraill gwaith cartref hirdymor i fwy o’u staff – fel cysylltiadau band eang sefydlog ac effeithlon a phwy sy’n talu amdanynt.

Mae Cysylltu Cymru yn cael ei bweru gan bartner yn y sector preifat, technoleg Cwmwl Cymunedol FourNet. Mae’n cael ei gyflwyno i gyrff y sector cyhoeddus drwy PSBA ac felly mae’n cynnig cysylltedd rhwydwaith cost-effeithiol.

Dwedodd Richard Pennington, Prif Swyddog Gweithredol FourNet: “Mae platfform Cysylltu Cymru yn codi gweithio o gartref i’r un lefelau gwasanaeth ag y byddai cyflogwyr yn eu cynnig o’u swyddfeydd eu hunain, ond mae hefyd yn dod ag arbedion cost mawr.

“Yn ogystal, nid oes angen rhwygo offer allan nad oes dim o’i le arno am y gall y platfform integreiddio â systemau ffôn presennol y cyngor a allai barhau i fod ag ychydig flynyddoedd o fuddsoddiad ar ôl ynddynt. Mae Cysylltu Cymru wedi’i gynllunio i ganiatáu cysylltedd di-dor a llwybro galwadau rhwng swyddfeydd blaen a chefn, sy’n dileu’r angen i adnewyddu gwasanaethau canolfannau cyswllt a gwasanaethau teleffoni corfforaethol, am gost fawr, heb ddim rheswm.”

I gloi, dwedodd Rob Thomas: “Gweithio o bell yw’r ffordd y mae’r byd yn symud.  Gall Cymru fwrw ymlaen drwy ddefnyddio technoleg a rennir sy’n bod eisoes a thechnoleg newydd drwy Cysylltu Cymru tra’n gwella mynediad at wasanaethau i ddinasyddion. Mae gweithio gartref hefyd yn helpu i amddiffyn staff, eu teuluoedd a’r amgylchedd drwy leihau teithio nôl a blaen i’r gwaith wrth i ni barhau i fyw gyda COVID-19.”

DIWEDD

Am fwy o fanylion cysylltwch â

Stephen Ware, Uwch Swyddog Cyfryngau Cyngor Bro Morgannwg  

drwy e-bostio: sware@valeofglamorgancouncil.gov.uk 

NEU 

Tim Reid yn swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau FourNet  

drwy e-bostio: treid@fournet.co.uk neu (symudol) 07720 414205