Beth yw Cysylltu Cymru?

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae Cysylltu Cymru yn fframwaith sy’n galluogi unrhyw gorff sector cyhoeddus yng Nghymru i fanteisio ar y cyfleusterau cyfathrebu, cydweithredu a chanolfan gyswllt diweddaraf trwy’r cwmwl.

Mae Cysylltu Cymru yn llwyfan canolfan gyswllt arloesol a rennir ar gyfer cynghorau a sefydliadau sector cyhoeddus eraill ledled Cymru. Mae’n cynnig ffordd o ddefnyddio llwyfan digidol modern sy’n fforddiadwy ac yn effeithlon, ac yn rhoi mwy o reolaeth i ddinasyddion Cymru dros y gwasanaethau y maent yn eu derbyn yn ogystal â’r gallu i gael y wybodaeth mae ei hangen arnynt. Mae’r llwyfan yn galluogi gweithio rhwng cynghorau a chyrff sector cyhoeddus eraill gan gynnwys Ymddiriedolaethau’r GIG a gwasanaethau meddyg teulu gan ddarparu gwasanaeth cyfannol i ddinasyddion

Defnyddio technoleg i drawsnewid y broses o ddarparu gwasanaethau

Gall Cysylltu Cymru helpu cyrff Sector Cyhoeddus Cymru i gyflawni eu rhwymedigaethau deddfwriaethol a diwallu anghenion dinasyddion a gweithwyr.

Mae galw cynyddol gan ddinasyddion am fynediad symlach, a ddarperir drwy eu dewis sianel, at wasanaethau o fewn ac ar draws y Sector Cyhoeddus. Mae Cysylltu Cymru yn helpu i gefnogi’r agenda Digidol yn Gyntaf hon: gan gynnig y dewis i ddinasyddion hunan-wasanaethu’n ddigidol neu gael gafael ar gymorth a gwasanaethau drwy’r ganolfan gyswllt.
Mae Cysylltu Cymru yn galluogi gweithwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, boed mewn canolfan gyswllt neu’r swyddfa gefn, i weithio o unrhyw le; helpu i gefnogi targed Llywodraeth Cymru o alluogi 30% o weithwyr Cymru i weithio o bell. Mae’r llwyfan yn gweithio’n ddwyieithog ac yn cefnogi amcan y llywodraeth i gael 33% o’r boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Cynlluniwyd yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol; Mae Cysylltu Cymru yn ddatrysiad er budd hirdymor Cymru, gan annog cydweithio o fewn a rhwng cyrff y Sector Cyhoeddus i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau integredig ar draws meysydd fel iechyd, gofal cymdeithasol a thai.

Cefnogi agenda ddigidol Cymru

Mae Cysylltu Cymru yn rhan annatod o gyflawni agenda digidol-yn-gyntaf Llywodraeth Cymru. Mae bwrdd Cysylltu Cymru yn cynnwys cynrychiolwyr llawer o ddefnyddwyr terfynol y gwasanaeth, yn ogystal â chynrychiolwyr o’r sefydliadau allweddol sy’n gyrru agenda ddigidol Cymru:

  • Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru
  • Prif Swyddog Digidol Cymru
  • SOCITM Cymru – Y Gymdeithas Arloesi, Technoleg a Moderneiddio
  • PBSA – Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

1

llwyfan

6

canolfan gyswllt

700k+

mil a mwy o ddinasyddion

100+

Darpariaeth 100 a mwy o wasanaethau cyhoeddus

20%+

o Boblogaeth Cymru

24/7

Gwasanaeth

Manteision i'r sector cyhoeddus yng Nghymru

“Mae’r project hwn yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd awdurdodau lleol a sefydliadau sector cyhoeddus eraill yn cydweithio. Rwy’n falch iawn bod arian Llywodraeth Cymru yn helpu gwasanaethau llywodraeth leol i gydweithio, gan eu galluogi i ddatblygu a defnyddio technoleg arloesol i ddarparu gwell gwasanaeth i’w cwsmeriaid a hwyluso swyddi eu staff.”

Julie James
Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol

Manteision i Ddinasyddion

Wedi'i bweru gan FourNet

Ganed Cysylltu Cymru o drafodaethau grwpiau Ffocws Cwsmeriaid Cymru a nododd fod llawer o’r Sector Cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu’r un heriau o dechnoleg sy’n heneiddio neu wedi hen ddarfod, yn wyneb disgwyliadau cynyddol dinasyddion a chyllidebau is.

Dan arweiniad Cyngor Bro Morgannwg, cyflwynwyd achos busnes i Lywodraeth Cymru sydd wedi cefnogi ac ariannu’r gwaith o greu fframwaith a llwyfan Cysylltu Cymru.

Ar ôl tendr cystadleuol, penodwyd FourNet, arbenigwyr canolfannau cyfathrebu, cydweithredu a chyswllt arobryn y sector cyhoeddus i ddarparu’r gwasanaeth.